Yr hyn sydd yn rhaid ei gofio yw nad y gair cyntaf bob tro yw’r un mwyaf addas, a’i bod yn werth edrych mewn mwy nag un geiriadur pan ydych chi’n chwilio am air. Hyd yn oed pan ydych chi’n gwybod gair, mae'n werth chweil chwilio oherwydd gall sbarduno eich meddwl i ganfod gair neu ymadrodd sydd hyd yn oed yn well. Mae adnoddau fel thesawrws neu restr o synonymau yn amhrisiadwy i arddull da.
Rydym yn cynnwys yma eiriaduron Saesneg-Cymraeg, rhai uniaith, ac ambell i eiriadur arbenigol.