Pam Jones
Pantygwynfyd
Rhos-fach
Clunderwen
Sir Benfro
SA66 7JS
01437 532292
pampantygwynfyd@btinternet.com
Pantygwynfyd
Rhos-fach
Clunderwen
Sir Benfro
SA66 7JS
01437 532292
pampantygwynfyd@btinternet.com
Ddiwedd Awst 2002 gadewais fy swydd fel pennaeth uned gyfieithu Cyngor Sir Caerfyrddin i weithio’n llawn-amser o gartref fel cyfieithydd. Penodwyd fi yn gyfieithydd yn 1972 gan hen Gyngor Dosbarth Gwledig Caerfyrddin, sef yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i benodi cyfieithydd. Gydag ad-drefnu llywodraeth leol yn 1972, fe’m penodwyd yn gyfieithydd i Gyngor Sir Dyfed, ac wedi hynny yn bennaeth yr uned gyfieithu yn Nyfed. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol unwaith yn rhagor yn 1996 fe’m penodwyd yn bennaeth uned gyfieithu Cyngor Sir Caerfyrddin, lle’r oeddem yn uned o 7 cyfieithydd llawn-amser, 1 cyfieithydd rhan-amser ac 1 cynorthwy-ydd gweinyddol. Yr uned oedd yr unig un ymhlith unedau cyfieithu awdurdodau lleol yng Nghymru i fod yn uned fusnes oedd yn gwneud gwaith cyfieithu i gyrff allanol megis Cyngor Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyngor Tref Caerfyrddin.
Rwyf wedi recriwtio a hyfforddi nifer o gyfieithwyr dros y deng mlynedd ar hugain y bûm yn gyfieithydd gydag awdurdod lleol. Roeddwn yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a bûm yn drysorydd y Gymdeithas am flynyddoedd lawer. Roeddwn yn aelod am sawl blwyddyn o’r tîm o bump oedd yn marcio papurau ar gyfer aelodaeth o’r Gymdeithas. Hefyd bûm yn rhedeg gweithdai cyfieithu yng Nghaerfyrddin a drefnwyd gan y Gymdeithas.
Bûm yn diwtor am flynyddoedd ar gwrs tystysgrif uwchraddedig cyfieithu proffesiynol Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac yn diwtor ar y cwrs diploma cyfieithu a redir ar y cyd gan Golegau Prifysgol Bangor ac Aberystwyth. Ar hyn o bryd rwyf yn aelod o banel safoni termau Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac wedi bod yn gyfieithydd ymgynghorol i’r Bwrdd ar eu llinell gyswllt hyd nes i’r gwaith o redeg y llinell gyswllt fynd allan ar gontract yn ddiweddar.
Rwyf bellach wedi bod yn gweithio ar fy liwt fy hun ers dros wyth mlynedd. Rwyf wedi llwyddo i ddychwelyd pob darn o waith o fewn y terfyn amser, ac anelaf bob amser at y safon uchaf o gyfieithu.
BA Cymraeg