Llwydda’r Gymdeithas, fel yr unig gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd Cymraeg i/o'r Saesneg, i wireddu ei nod mewn sawl dull a modd, gan gynnwys:
- cynyddu ein haelodaeth i gynrychioli mwy a mwy o gyfieithwyr;
- cynnal arholiadau aelodaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd;
- hybu datblygiad proffesiynol cyfieithwyr, trwy drefnu rhaglen amrywiol o weithdai, a datblygu ‘Balchder Crefft’, ein Cynllun Datblygu Proffesiynol Parhaus;
- cynnal perthynas â sefydliadau Addysg Uwch, yn enwedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
- cynnal a meithrin ein cysylltiadau â chyrff a sefydliadau eraill y tu mewn i’r byd cyfieithu a thu hwnt;
- hyrwyddo a marchnata’r Gymdeithas a’i haelodau.