Prif nod Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru oddi ar ei sefydlu yn 1976 yw cynnal a datblygu safonau cyfieithu proffesiynol Cymraeg i/o'r Saesneg.
Sefydlwyd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn 1976 pan gyfarfu tri ar ddeg o gyfieithwyr yn Aberystwyth ar 15 Hydref a phenderfynu bod angen sefydlu cymdeithas broffesiynol. Ar y pryd dim ond rhyw ugain o bobol a gyflogid yn gyfieithwyr proffesiynol amser-llawn wrth i’r Swyddfa Gymreig, rhai cynghorau sir ac ambell sefydliad cyhoeddus arall ddechrau cyflogi cyfieithwyr a sefydlu unedau a gwasanaethau cyfieithu. Teimlid bod angen cymdeithas ar gyfieithwyr i drafod materion perthnasol, ceisio cysoni arferion cyfieithu a chytuno ar dermau.
Mae hanes sefydlu’r Gymdeithas wedi’i groniclo yn narlith Berwyn Prys Jones, ‘Troi a throsi: dathlu 40 mlynedd’ (Darlith Goffa Hedley Gibbard, 2016).
Tyfodd a datblygodd y Gymdeithas wrth i nifer y cyfieithwyr proffesiynol gynyddu. Dyma rai o’r cerrig milltir pwysicaf:
Sefydlu trefn asesu ar gyfer ymaelodi â’r Gymdeithas yn 1989 gan Wil Petherbridge. Datblygwyd y drefn hon ymhellach trwy sefydlu trefn arholi Aelodaeth Sylfaenol yn 1998, trefn arholi Aelodaeth Gyflawn yn 2003, a threfn asesu CAP yn 2005.
Cael grant gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1997 i gyflogi Swyddog Gweinyddol rhan-amser. Yn 1999, yn sgil cynyddu’r grant, trowyd y swydd yn un amser-llawn, ac yn 2001 dyblwyd nifer y staff amser-llawn drwy benodi Cyfarwyddwr. Yn 2004 crëwyd swydd y Swyddog Datblygu.
Creu swydd Rheolwr Datblygu Proffesiynol yn 2009 yn lle swydd y Swyddog Datblygu. Arweiniodd hynny at gynnal rhaglen amrywiol a llwyddiannus o hyfforddiant, gan gynnwys cynyddu nifer ac amlder ein gweithdai wyneb-yn-wyneb, datblygu’r e-weithdy cyfieithu, yr Ymarfer CAP, hyfforddiant penodol i sefydliadau, a chreu cynllun Datblygu Proffesiynol Parhaus.
Gwneud y Dr Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones yn Llywyddion er Anrhydedd y Gymdeithas yn 2001 i gydnabod eu gwaith arloesol yn cyd-olygu Geiriadur yr Academi.
Corffori Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru Cyf. yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif cofrestredig 4741023, yn 2003.
Cyflwyno, yn 2011 y Cod Ymddygiad Proffesiynol y mae disgwyl i holl aelodau’r Gymdeithas ymddwyn yn unol ag ef. Yr un pryd sefydlwyd trefn gwyno gysylltiedig, a gwasanaeth asesu ansawdd cyfieithiad.
Sefydlu Aelodaeth Gorfforaethol i gwmnïau cyfieithu preifat yn 2011 - newidiwyd yr enw i Gwmni Cydnabyddedig yn 2015. Dilynwyd hynny gan drefn ar gyfer cydnabod sefydliadau cyhoeddus a dielw.
Adolygu ac ailwampio’r drefn arholi yn 2012, a phenodi Prif Arholwr a 2 ddirprwy ar gyfer yr Arholiadau Aelodaeth Testun ac un dirprwy ar gyfer y Prawf CAP.
Sefydlu categori’r Myfyriwr Cyswllt yn 2015 er mwyn annog a chefnogi myfyrwyr a hoffai ddilyn gyrfa fel cyfieithydd.
Meithrin perthynas agos â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol oddi ar ei sefydlu yn 2011 ac, yn 2014, llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ag ef.
Noddi ymchwil academaidd trwy fuddsoddi’n ariannol mewn dau draethawd PhD – un Judith Kaufmann yn 2009 ac un Dawn Wooldridge yn 2015.
Cryfhau trefniadau CAP yn y llysoedd a statws proffesiynol cyfieithwyr ar y pryd trwy gydweithio â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.
Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.