Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Gwobr Goffa Wil Petherbridge

Cyflwynir Gwobr Goffa Wil Petherbridge gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru er cof am ei chyn-Ysgrifennydd ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru. Mae’r Wobr Goffa’n arwydd o werthfawrogiad y Gymdeithas o’r holl waith a wnaeth Wil, yn enwedig wrth sefydlu sylfeini’i threfn arholi.

Etholwyd Wil yn Ysgrifennydd y Gymdeithas yn 1985 pan nad oedd hi’n fawr mwy na siop siarad ddifyr a defnyddiol, a’r tâl aelodaeth yn ddwybunt y flwyddyn. Olynodd ef Mary Jones, yr Ysgrifennydd cyntaf. Bu’n Ysgrifennydd y Gymdeithas hyd 1997.

Wil, yn anad neb, a drodd y Gymdeithas yn gymdeithas broffesiynol. Roedd gan Wil ei syniadau pendant ei hun ynghylch proffesiynoli’r Gymdeithas. Am ei fod wedi sefyll a llwyddo yn arholiadau’r Institute of Linguists a’r Institute of Translation and Interpreting (ITI), roedd yn awyddus iawn i weld y Gymdeithas yn dilyn trywydd tebyg a phroffesiynoli byd cyfieithu Cymraeg/Saesneg. Yn 1989 cafodd berswâd ar y Gymdeithas i sefydlu trefn arholi ac asesu i ymgeiswyr allu ymaelodi â hi. Ef hefyd a luniodd gyfansoddiad cynta’r Gymdeithas a dogfennau eraill a oedd mor hanfodol i gymdeithas a oedd yn tyfu ac yn datblygu’n gyflym.

Brodor o Gaerdydd oedd Wil ac un a oedd wedi dysgu Cymraeg. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle’r enillodd radd dda, ac wedyn MA, yn y Gymraeg. Wedi cyfnod fel athro, symudodd i faes cyfieithu, yn gyntaf o dan Gareth Morris yng Nghyngor Môn, cyn dychwelyd i Aberystwyth wedi iddo gael ei benodi'n gyfieithydd yn ei hen goleg.

Roedd gweithgarwch a dyfalbarhad Wil yn ddiarhebol. Bu’n rhedeg cwrs cyfieithu yn Adran Efrydiau Allanol y Brifysgol yn Aberystwyth am rai blynyddoedd, ac elwodd amryw byd o gyfieithwyr o’i ddilyn. Gwahoddodd ef nifer o aelodau’r Gymdeithas i fod yn diwtoriaid ar y cwrs.

Bu Wil farw yn 2003. Bu ei golli'n ergyd drom iawn, ac erys llawer o’r patrymau a osododd yn sail i waith y Gymdeithas hyd heddiw.

Adeg ei farwolaeth lluniodd Ieuan Bryn deyrnged iddo a oedd yn adlewyrchu teimladau llawer o’i gyfeillion a’i gydweithwyr. Mae’r deyrnged hefyd yn cynnig golwg ddiddorol iawn ar y pwys a roddai Wil ar grefft ac ansawdd cyfieithu.

Caiff Gwobr Goffa Wil Petherbridge, a sefydlwyd yn 2007, ei rhoi i’r ymgeisydd arholiad mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Gymraeg, os bernir bod teilyngdod.


Enillwyr Gwobr Goffa Wil Petherbridge

2022

Lois Roberts-Jones, Caernarfon
Cymen*

Jennifer Needs, Caerdydd
Cyllid a Thollau EF*

Morgan Owen, Caerdydd
Asiantaeth Safonau Bwyd*

2019

Nerys Owen, Aberystwyth
Atebol*

2018

Cerys Ann Davey, Caerdydd
Prysg*

2017

Aled Meredydd Davies, Bancffosfelen, Llanelli
Cyfieithydd ar ei liwt ei hun*

2016

Angharad Edwards, Comins Coch
Calan*

2015

Rhodri Owain, Penmachno
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru*

2012

Elgan Davies, Cricieth
Cynulliad Cenedlaethol Cymru*

2010

Elin Davies, Porthaethwy
Cyfieithydd ar ei liwt ei hun*

2009

Catherine Lowe, Tregarth
Cyfieithydd ar ei liwt ei hun*

2008

Tudur Jones, Pontiets
Cyfieithydd ar ei liwt ei hun*

2007

Sarah Astley, Y Drenewydd
Cyngor Sir Powys*

*Cyflogwr yr enillydd adeg ennill y wobr

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.