Nid yw aelodau'r staff yn gyfieithwyr nac yn cynnig gwasanaeth cyfieithu, ond maen nhw'n barod i roi pob help i chi ddod o hyd i gyfieithydd a/neu gyfieithydd ar y pryd o blith aelodau'r Gymdeithas.
Mae'r Gymdeithas yn cyflogi dau swyddog amser-llawn i reoli a gweinyddu'r Gymdeithas a threfnu ei rhaglen o weithgareddau.
Ar ôl gweithio yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn am flwyddyn, dechreuodd Gwyn ei yrfa yn y cyfryngau gan weithio i BBC Radio Cymru ym Mangor. Wedi hynny bu’n gweithio i Newyddion 7 a Hel Straeon cyn sefydlu ei gwmni cynhyrchu ei hun. Roedd yn un o sylfaenwyr Cwmni Da, ac yna’n brif weithredwr cwmni adnoddau Barcud yng Nghaernarfon. Bu’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu gyda Chomisiynydd y Gymraeg ac yna’n Cyfarwyddwr Cyfathrebu / Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol gydag S4C cyn dechrau fel Prif Swyddog y Gymdeithas ym Mehefin 2023.
Yn wreiddiol o Geredigion, dechreuodd Sioned ei gyrfa yn HTV ddiwedd yr 80au. Ers hynny bu’n gweithio mewn amryw o swyddi o fewn y diwydiant teledu o ymchwilydd i Uwch Gynhyrchydd, gan weithio’n bennaf i gwmnïau Fflic, Boom ac Afanti yng Nghaerdydd. Yn fwyaf diweddar roedd yn gweithio i Tinopolis yn Llanelli ble roedd yn Rheolwr Cynhyrchu ar gyfresi Pawb a’i Farn, Heno a Prynhawn Da.
Bu hefyd yn gweithio am gyfnod i Theatr Genedlaethol Cymru fel Cynhyrchydd dros dro.
Penderfynodd newid trywydd gyrfa ym mis Medi 2024 pan ymunodd a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.