Mae’r Gymdeithas yn awyddus bod ei holl aelodau yn derbyn yr egwyddor o werth DPP ac yn neilltuo amser i ddatblygu proffesiynol. Er na allwn orfodi neb i wneud hynny, y gobaith yw y bydd gweithgarwch DPP yn dod yn rhan naturiol o lwybr gwaith ein haelodau gydol eu gyrfa. Bydd dangos ymrwymiad i DPP yn dod â budd i’n haelodau, a bydd hynny’n ei dro yn hybu enw da’r Gymdeithas a’r proffesiwn.
Gall gweithgarwch DPP fod yn ddysgu ffurfiol ac anffurfiol, ac mae’r ddau ddull cyn bwysiced â’i gilydd. Mae DPP yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu neu hyfforddi yn ogystal â datblygiad personol. Gall gynnwys diweddaru, uwchraddio a mireinio sgiliau a gwybodaeth, yn ogystal ag ymestyn gorwelion. Mae’n broses sy’n cynnwys adnabod eich anghenion datblygu, manteisio ar gyfleoedd hyfforddi neu ddysgu, cofnodi’r gweithgarwch, ac adolygu’r gweithgarwch hwnnw’n rheolaidd.