Mewn unedau neu wasanaethau cyfieithu yn y sector cyhoeddus, neu mewn cwmnïau neu asiantaethau cyfieithu yn y sector preifat, y bydd y mwyafrif o gyfieithwyr yn dysgu eu crefft. Yno y cewch chi’r sylfaen a fydd yn sail gadarn i’ch gyrfa. Drwy lunio cyfieithiadau, eu trafod gyda’ch cydweithwyr a dysgu o’ch camgymeriadau y gwnewch chi’ch trwytho’ch hun yn hanfodion cyfieithu da.
Fel rheol, bydd cyfieithydd dan hyfforddiant yn gweithio o ddydd i ddydd dan arweiniad uwch-gyfieithydd neu olygydd profiadol. Yr uwch-gyfieithydd neu’r golygydd hwnnw fydd yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad y cyw gyfieithydd. Fel cyfieithydd dan hyfforddiant, mae’n debyg y byddwch chi’n datblygu amryw o sgiliau eraill megis adolygu, mireinio a phrawfddarllen cyfieithiadau yn ogystal â datblygu’ch gwybodaeth o feysydd arbenigol.
Bara menyn y mwyafrif o gyfieithwyr yn y naill sector a’r llall yw cyfieithu testun. Gan fod gwaith o bob math yn llifo i mewn ac allan yn ddi-baid fel rheol, mae’n bwysig i chi allu gweithio’n gywir a chyflym i derfynau amser a’ch bod chi bob amser yn parchu cyfrinachedd y testun a’r cwsmer.
Gan fod natur y gwaith yn amrywio cymaint, mae hi hefyd yn bwysig i chi fod â dealltwriaeth dda o amrywiaeth go fawr o bynciau ac i chi ymddiddori’n arbennig mewn materion cyfoes. Yn aml, does wybod beth fydd pwnc y darn nesaf y cewch chi gais i’w gyfieithu.
Bydd hi’n hanfodol hefyd i chi fod â sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn a bod yn barod i’w datblygu ymhellach wrth i chi ddysgu mwy a mwy am holl faes technoleg cyfieithu.