Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Yr e-weithdy cyfieithu

Mae’r e-weithdy cyfieithu yn weithdy trwy gyswllt e-bost yn unig. Caiff ei gynnig i'r Gymraeg ac i'r Saesneg, ac ar y lefelau Cyflawn a Sylfaenol ar wahân.

Ar y lefelau Cyflawn a Sylfaenol -

Yn yr e-weithdy cyfieithu bydd cyfle i gyfieithu dau ddarn o’r un hyd a safon â darnau’r arholiad perthnasol a chael sylwadau ar y cyfieithiadau gan diwtor sy’n gyfieithydd profiadol ac yn aelod o Gofrestr Marcwyr Arholiadau’r Gymdeithas.

Cynhelir yr e-weithdy cyfieithu yn gyfan gwbl trwy e-bost. Bydd y cyfathrebu’n digwydd yn uniongyrchol rhwng yr unigolyn a’r tiwtor trwy e-bost yn unig.

Disgwylir i bob un sy’n cymryd rhan feddu ar sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg sy’n cyfateb i ddisgwyliadau lefel yr e-weithdy cyfieithu.

Mae’r e-weithdy cyfieithu wedi profi ei hun i fod yn ddull effeithiol a phoblogaidd o ddysgu ac o gynnig hyfforddiant i bobl yn eu hamser eu hunain. Gellir dilyn yr e-weithdy cyfieithu fel rhan o baratoadau at sefyll Arholiad Aelodaeth y Gymdeithas, neu fel rhan o raglen o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol fel cyfieithydd.

Bydd yr e-weithdy cyfieithu yn para ryw fis, fel a ganlyn:

Yn yr e-weithdy cyfieithu ar lefel aelodaeth Gyflawn rhaid anfon y cyfieithiad o darn 1 at y tiwtor wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r e-weithdy cyfieithu. Bydd y tiwtor yn anfon ei sylwadau wythnos yn ddiweddarach. Caiff darn 2 ei anfon ar y dydd Llun canlynol, cyn amser cinio, a rhaid anfon y cyfieithiad o darn 2 at y tiwtor erbyn 2pm ar y dydd Iau canlynol. Mae’r amserlen ar gyfer darn 2 yr un fath ag amserlen y darn ‘gwaith cartref yn yr arholiadau ar y lefel Gyflawn. Daw’r e-weithdy cyfieithu i ben wythnos yn ddiweddarach pan fydd y tiwtor yn anfon ei sylwadau ar darn 2.

Yn yr e-weithdy cyfieithu ar lefel aelodaeth Sylfaenol rhaid anfon y cyfieithiad o darn 1 at y tiwtor wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r e-weithdy cyfieithu. Caiff darn 2 ei anfon yn syth, a rhaid anfon y cyfieithiad ohono at y tiwtor ddeng niwrnod yn ddiweddarach. Daw’r e-weithdy cyfieithu i ben wythnos yn ddiweddarach pan fydd y tiwtor yn anfon ei sylwadau ar y cyfieithiad o darn 2.

Sylwer, ni fydd tiwtor yn marcio gwaith mwy nag 8 unigolyn. Fe’ch anogwn, felly, i gofrestru a thalu cyn gynted ag y gallwch, a pheidio â’i gadael hi tan y funud olaf, gan mai’r cyntaf i’r felin fydd hi wrth neilltuo llefydd yn yr e-weithdy cyfieithu.

Bydd y wybodaeth am yr e-weithdy nesaf ymddangos ar ein gwefan yn fuan.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.