Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Gweithdai

Un o amcanion y Gymdeithas yw sicrhau cyfleoedd i’w haelodau a chyfieithwyr eraill i wella, cynyddu a datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Mae'r Gymdeithas, felly, yn trefnu gweithdai sy’n berthnasol i anghenion cyfieithwyr ar bob lefel o’u gyrfaoedd.Cynhelir y gweithdai hyn mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled Cymru er mwyn ei gwneud hi’n hwylus i gyfieithwyr lle bynnag y maen nhw’n gweithio ac yn byw i fynd iddyn nhw. Ystyrir fod y ddarpariaeth hon yn wasanaeth pwysig iawn a gaiff ei werthfawrogi’n gyffredinol. Rydym hefyd yn trefnu’r e-weithdy cyfieithu, sef hyfforddiant sy'n digwydd trwy gyswllt e-bost yn unig.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Gweithdy Golygu a Gloywi Gwaith

Cwrs hanner diwrnod ar olygu a gloywi testun gan ganolbwyntio ar y gwallau cyffredin.

Y bwriad yw uwchraddio sgiliau rhai sy’n ysgrifennu a chyfieithu i’r Gymraeg.

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar wahanol reolau iaith a’r camgymeriadau sy’n digwydd amlaf.

Tiwtor: Rhiannon Ifans. Yn adnabyddus fel awdur Y Golygiadur mae Rhiannon wedi cyhoeddi sawl llyfr o farddoniaeth a rhyddiaith. Hi enillodd y Fedal Ryddiaith yn eisteddfod Conwy 2019 am ei nofel, Ingrid. Mae hi hefyd wedi ennill gwobr Tir na Nog mwy nag unwaith.

Bydd pawb yn derbyn copi o argraffiad diwygiedig Y Golygiadur fydd yn dod o'r wasg yn fuan fel rhan o'r gweithdy.

Mawrth 13 Mai 2025 Intec, Bangor
Sesiwn bore = 09:30-13:00   

Iau 15 Mai 2025, Canolfan yr Urdd, Caerdydd
Sesiwn bore = 09:30-13:00   Mae sesiwn y bore yn llawn. Cysylltwch â'r swyddfa - os oes digon o alw byddwn yn rhedeg gweithdy arall yn y prynhawn.

Mercher 21 Mai 2025, Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth 
Sesiwn 09:30-13:00 
 
Os oes mwy o alw byddwn yn trefnu ail sesiwn yn y prynhawn. 

Cost: Aelodau £80 (yn ogystal â’r Cwmnïau Cydnabyddedig, y sefydliadau a gaiff eu cydnabod, a Darpar Aelodau)

Eraill £110

Mwy na geiriau: Creu wrth gyfieithu

Gweithdy diwrnod gyda Dr Angharad Price.

Mae cyfieithu'n llawer mwy na chyfnewid geiriau un iaith am iaith arall, ac mae 'na berthynas annatod rhwng cyfieithu a chreu. Wrth gyfieithu llenyddiaeth daw'r berthynas hon yn amlwg iawn. Mae ystyriaethau yn ymwneud â sain, rhythm a gwedd iaith yn dod yn bwysig, yn ogystal ag is-destunau diwylliannol geiriau a'u cysylltiadau emosiynol.

Yn y gweithdy hwn byddwn yn archwilio'r elfennau hyn trwy gyfrwng cyfres o ymarferion byr, ysgogol, ac yn trafod sut y gall cyfieithu creadigol - trwy gyfoethogi crefft a chynyddu ymwybyddiaeth - ddod yn rhan o arfogaeth y cyfieithydd proffesiynol o ddydd i ddydd.


Mae Angharad Price yn Athro'r Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac yn awdur tair nofel, yn ogystal â chyfrolau o ysgrifau. Enillodd ei nofel "O! Tyn y Gorchudd" Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod yn 2002 a gwobr Llyfr y Flwyddyn, Cyngor y Celfyddydau yn 2003. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, 'Nelan a Bo', yn 2024. Mae ganddi brofiad helaeth o gyfieithu llenyddiaeth o'r Almaeneg, y Ffrangeg a'r Eidaleg i'r Gymraeg, ac mae'n mwynhau gweld sut y gall ieithoedd gyfoethogi ei gilydd wrth gyfieithu.

Mawrth 3 Mehefin 2025 Intec, Bangor
09:30-16:30   

Iau 5 Mehefin 2025, Canolfan yr Urdd, Caerdydd - LLAWN
09:30-16:30   

Cost: Aelodau £120 (yn ogystal â’r Cwmnïau Cydnabyddedig, y sefydliadau a gaiff eu cydnabod, a Darpar Aelodau)

Eraill £160

Y pris yn cynnwys cinio ysgafn a lluniaeth yn ystod y dydd.