Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Mentora

Ydych chi’n meddwl bydda chi’n elwa o gael mentor? Nid er mwyn prawf ddarllen eich gwaith ond er mwyn trafod cyfeiriad a strategaeth eich gyrfa? Ydych chi ar fin dechrau rheoli ac erioed wedi rheoli o’r blaen? Neu efallai eich bod yn ystyried mynd yn llawrydd ac isio trafod sut mae rheoli llif gwaith, ymdopi gyda threth incwm, yswiriant gwladol, treth ar werth neu ddelio gyda chleientiaid? Beth am fuddsoddi mewn technoleg cyfieithu neu ddefnyddio cyfieithu mecanyddol?

Os felly cysylltwch â’r swyddfa a byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i rywun fydd yn addas ar eich cyfer.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.