Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Newyddion

Tudalen 1 o 6

Sarah Boyd a Rhys Ifor
15
Ebr
2025

Enillwyr gwobrau Wil Petherbridge a Berwyn

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn falch o gyhoeddi mae enillwyr gwobrau’r Gymdeithas am y gwaith cyfieithu orau yn arholiadau’r Gymdeithas yn 2024 yw Sarah Boyd a Rhys Ifor.

Sarah Boyd sydd yn ennill Gwobr Berwyn am ei gwaith cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg yn arholiadau’r Gymdeithas. Tra mae Rhys Ifor yn ennill Gwobr Goffa Wil Petherbridge am ei waith yn cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg

Roedd arholwyr y Gymdeithas yn ystyried gwaith pawb safodd arholiadau’r Gymdeithas yn ystod 2024 (Gwanwyn a Hydref) cyn dod i’w penderfyniad.

Cyflwynir Gwobr Berwyn i'r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol drwy gyfieithu i'r Saesneg. Mae'n anrhydeddu Berwyn Prys Jones a fu'n Gadeirydd y Gymdeithas am fwy na chwarter canrif ac yn arweinydd ysbrydoledig ar fyd cyfieithu yng Nghymru.

Cyflwynir Gwobr Goffa Wil Petherbridge gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru er cof am ei chyn-Ysgrifennydd ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru. Mae’r wobr yn arwydd o werthfawrogiad y Gymdeithas o’r holl waith a wnaeth Wil, yn enwedig wrth sefydlu’r drefn arholi.

O Landeilo daw Sarah yn wreiddiol, gan raddio gyda gradd BA mewn Ffrangeg ac Eidaleg, ac yna MA mewn Astudiaethau Cyfieithu, o Brifysgol Caerdydd. Mae hi wedi gweithio i Business Language Services Ltd am dros wyth mlynedd ac erbyn hyn hi yw Uwch Swyddog y Gymraeg y cwmni.

Cafodd Rhys Ifor ei fagu yng Nghaernarfon gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Syr Hugh Owen, cyn symud i Gaerdydd i wneud cyrsiau BA Hanes ac MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae o wedi bod yn cyfieithu ers bron i bum mlynedd gan gychwyn yng nghwmni Cyfieithu Clir cyn symud ymlaen i weithio yn adran gyfieithu Amgueddfa Cymru, ac erbyn hyn mae o’n gweithio fel Uwch-gyfieithydd yn uned gyfieithu Prifysgol Caerdydd.

Gwaith celf 2
8
Ebr
2025

Deallusrwydd Artiffisial yn y byd cyfieithu – Y cyfleoedd a’r heriau

CYNHADLEDD UNDYDD wedi ei drefnu gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Dydd Llun 23 Mehefin, Prifysgol Aberystwyth

Y siaradwyr fydd: 

Efa Gruffydd Jones, Comisiynydd y Gymraeg,  fydd yn trafod Y Safonau a DA

Dr Angharad James, Adran y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth, fydd yn trafod oblygiadau cyfreithiol, a chyfrinachedd defnyddio DA i gyfieithu

Hanna Thomas, AI Solutions Architect gyda chwmni BCG Platinion o Kőln, Yr Almaen, fydd yn sôn am bosibiliadau DA

Ben Screen, awdur “Sylfeini Cyfieithu Testun: Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol”, manteision DA i gyfieithydd 

Alun Gruffydd, sylfaenydd cwmni Bla, fydd yn trafod effaith DA ar gwmnïau cyfieithu

Mandi Morse, Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol fydd yn trafod oblygiadau DA i addysgwyr

Rhys Jones, Bangor AI, fydd yn trafod “beth ddaw nesa”

Nid oes cost i fynychu a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

I gofrestru dilynwch y ddolen >>> https://forms.gle/DeDJgc9qzkngXyyU7

28
Ion
2025

Toriadau arfaethedig ym Mhrifysgol Caerdydd

Mewn ymateb i’r toriadau arfaethedig ym Mhrifysgol Caerdydd dywedodd Manon Cadwaladr, Cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru:

“Mae’r toriadau arfaethedig ym Mhrifysgol Caerdydd yn sioc. Mae ieithoedd a chyfieithu yn hanfodol i wahanol genhedloedd ddeall ei gilydd. Mae gwerth masnachol i ieithoedd wrth i wledydd brynu, gwerthu, mewnforio ac allforio ymysg ei gilydd. Bydd colli’r arbenigedd mewn ieithoedd yn ein prifysgolion yn arwain mewn amser at golli’r gallu i ddysgu ieithoedd yn ein hysgolion. Byddwn oll yn dlotach oherwydd hyn.

“Rwy’n galw ar Brifysgol Caerdydd i ailystyried y toriadau hyn a heno mae ein meddyliau efo’r staff sydd a’u swyddi yn y fantol.”

28
Maw
2024

Cynhadledd ar-lein y CIOL – 21.03.2024.

Adroddiad gan Nia Davies, cwmni Nico o Gynhadledd ar-lein y CIOL.

Diolch i’r Gymdeithas am gael treulio diwrnod difyr yn gwrando ar arbenigwyr iaith a chyfieithu o bob maes ac o bob cwr o’r byd yng nghynhadledd ar-lein y CIOL. Cawn ein hannog gan y Gymdeithas i fanteisio ar bob cyfle i ehangu ein profiadau proffesiynol a buaswn yn annog unrhyw un i gymryd cip ar y cyfleoedd datblygiad proffesiynol mae’r CIOL yn eu cynnig gydol y flwyddyn.

Er mai cynhadledd ar-lein oedd hi doedd hi ddim yn drwm o gwbl, gyda 6 sesiwn amrywiol. Roedd thema gyffredin gyda sawl un o’r siaradwyr yn canolbwyntio ar y datblygiadau mewn technoleg a phwysigrwydd parhau i ddysgu a datblygu ein dealltwriaeth o dechnoleg a sut gallai fod o fudd i ni yn ein gwaith.

Maha El-Metwally oedd yn agor y gynhadledd gan drafod yr heriau cyfoes a’r angen i barhau i ddysgu am ddatblygiadau newydd mewn technoleg a sicrhau bod llais cyfieithwyr yn cael eu clywed wrth i dechnoleg ddatblygu. Rhaid peidio â bod ofn cysylltu â’r cwmnïau mawrion i egluro sut gallen nhw wneud bywyd yn haws i gyfieithwyr medde hi!

Maha El-Metwally  yn annerch cynhadledd ar-lein y CIOL
Maha El-Metwally yn annerch cynhadledd ar-lein y CIOL

Cawsom flas ar yrfa Guilia Lucania sy’n arbenigo mewn cyfieithu a llunio testun marchnata yn ymwneud â’r diwydiant bwyd a diod ac roedd hi’n sôn am bwysigrwydd deall cyd-destun diwylliannol yr hyn rydyn ni’n ei gyfieithu, yr angen i ddarllen yn eang a blasu digon o fwyd a gwin wrth gwrs.

Guilia Lucania yn annerch cynhadledd ar-lein y CIOL
Guilia Lucania yn annerch cynhadledd ar-lein y CIOL

Eglurodd Michelle Sheehan sut roedd hi’n denu myfyrwyr at ieithyddiaeth wrth i niferoedd sy’n astudio ieithoedd barhau i ostwng a Bozena Pajak wedyn yn egluro’r wyddoniaeth y tu ôl i ddysgu ieithoedd ar Duolingo. (Fe gadarnhaodd hi nad oedd bwriad diweddaru’r Gymraeg, dim ond cynnal beth oedd yno’n barod, a bod eu pwyslais nhw ar gynyddu’r ddarpariaeth Saesneg...).

Bozena Pajak  yn annerch cynhadledd ar-lein y CIOL
Bozena Pajak yn annerch cynhadledd ar-lein y CIOL

Soniodd Adam Wooten am y llu o yrfaoedd oedd ynghlwm â ieithoedd gan nodi bod y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn anweledig o ran eu natur, felly mae angen mwy o farchnata ymhlith gwasanaethau gyrfaoedd i ddenu myfyrwyr at y grefft. Amlinellodd y newidiadau ar y gorwel gan ddweud mai ni oedd yn y lle gorau i fynd i’r afael â nhw oherwydd ein bod ni’n ddiwydiant sy’n barod i ddysgu ac ymateb.

Adam Wooten yn annerch cynhadledd ar-lein y CIOL
Adam Wooten yn annerch cynhadledd ar-lein y CIOL

I gloi, cawsom wledd o hen eiriau anghofiedig gan Susie Dent (Dictionary Corner ar Countdown) wnaeth ein tywys ni drwy ei hoff eiriau sy’n gysylltiedig â theimladau ac emosiwn, gan gyfeirio at y ffaith bod y sawl sy’n gallu mynegi eu hemosiynau yn huawdl yn iachach ac yn hapusach eu byd.

Mae cynadleddau fel hyn a’r datblygiad proffesiynol parhaus sy’n bosib yn werthfawr iawn wrth i’r tirlun newid o flwyddyn o flwyddyn. Recordiwyd y sesiynau hyn ac maent ar gael i aelodau CIOL ar eu gwefan.

Nia Davies, cwmni Nico

15
Chwef
2024

Enillydd Gwobr Wil Petherbridge

Nia Morus-Loveluck
Nia gyda thystysgrif gwobr Wil Petherbridge.

Llongyfarchiadau i Nia Morus-Lovelock enillydd gwobr Wil Petherbridge y Gymdeithas eleni.

Mae Gwobr Goffa Wil Petherbridge, sydd er cof am gyn-ysgrifennydd y Gymdeithas ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru - yn cael ei ddyfarnu gan Brif Arholwr y Gymdeithas i’r ymgeisydd mwyaf addawol yn arholiadau Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Gymraeg.

Mae Nia, enillydd eleni, yn gweithio i gwmni Bla yn Llangefni. Dywed Nia “'Yn enedigol o Ynys Môn, gweithiais fel athrawes gynradd yn ne Cymru am ddeng mlynedd, yn gyntaf ym Mhontypridd ac yna'r Bari, cyn symud yn ôl i Ynys Môn yn 2002, lle bûm yn gweithio fel athrawes lanw. Gyda'm bryd ar yrfa gyfieithu ers rhai blynyddoedd, cefais swydd gyda chwmni cyfieithu Bla yn 2021 ac rwyf newydd gael fy mhenodi'n Uwch-gyfieithydd yno. Mae gen i ddwy ferch, Grug sy'n 22 ac Annes sy'n 15.”

17
Ion
2024

Gwobrau Berwyn a Wil Petherbridge

Yn dilyn arholiadau’r Gymdeithas mis Hydref, rydym yn falch o gyhoeddi fod Nia Morus Lovelock ac Owain Rogers wedi ennill gwobrau Wil Petherbridge a Berwyn.

Mae Gwobr Goffa Wil Petherbridge, sydd er cof am gyn-ysgrifennydd y Gymdeithas ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru - yn cael ei ddyfarnu gan Brif Arholwr y Gymdeithas i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol am gyfieithu i’r Gymraeg.

Enillydd eleni yw Nia Morus Lovelock sy’n gweithio i gwmni Bla yn Llangefni. Dywed Nia “'Yn enedigol o Ynys Môn, gweithiais fel athrawes gynradd yn ne Cymru am ddeng mlynedd, yn gyntaf ym Mhontypridd ac yna'r Bari, cyn symud yn ôl i Ynys Môn yn 2002, lle bûm yn gweithio fel athrawes lanw. Gyda'm bryd ar yrfa gyfieithu ers rhai blynyddoedd, cefais swydd gyda chwmni cyfieithu Pla yn 2021 ac rwyf newydd gael fy mhenodi'n Uwch-gyfieithydd yno. Mae gen i ddwy ferch, Grug sy'n 22 ac Annes sy'n 15.”

Mae Gwobr Berwyn sy’n cydnabod cyfraniad aruthrol Berwyn Prys Jones, a fu’n Gadeirydd y Gymdeithas am dros chwarter canrif – yn cael ei ddyfarnu gan Brif Arholwr y Gymdeithas i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Saesneg.

Enillydd eleni yw Owain Rogers sy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd.

Mae’r ddau yn cael gwobr ariannol o £150 ac yn cael mynychu 1 e-weithdy cyfieithu ar y lefel Gyflawn (gwerth £45) am ddim.

8
Ion
2024

Llofnodi cytundeb gyda'r ATC

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (CCC) a'r Association of Translation Companies (ATC) wedi llofnodi memorandwm o ddealltwriaeth sy'n ymrwymo'r ddau gorff i gydweithio er budd y ddwy gymdeithas.

Mae’r Association of Translation Companies (ATC) yn gymdeithas fasnach sy'n cynrychioli buddiannau cwmnïau gwasanaeth iaith yn y DU ac yn rhyngwladol. Dyma'r prif lais i gwmnïau sy'n gweithredu yn niwydiant gwasanaethau iaith y DU.

Dywedodd Manon Cadwaladr, Cadeirydd CCC "Rwy'n falch iawn o weld Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a'r ATC yn cytuno i weithio'n agosach. Mae'r ddwy gymdeithas yn bwysig i'r sector yn gyffredinol ac i mi'n bersonol, gan fy mod yn aelod o'r ddwy. Mae'r cytundeb hwn yn uno dwy elfen bwysig o'r diwydiant gwasanaethau iaith ac rwy'n edrych ymlaen at berthynas gynhyrchiol sy’n datblygu dros y blynyddoedd nesaf."

Dywedodd Ruth Partington, Cadeirydd yr ATC "Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn rhwng yr ATC a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn cynnig posibiliadau ar gyfer cydweithio ar draws amrywiaeth o bynciau, gweithgareddau a mentrau yn y diwydiant gwasanaethau iaith. Mae gan Gymru sector cyfieithu a dehongli ffyniannus, yn fasnachol a sefydliadol, ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda CCC ar brosiectau ar y cyd at y dyfodol."

Roedd y ddwy gymdeithas yn rhan o bapur gwyn diweddar ar y materion sy'n wynebu caffael a darparu gwasanaethau iaith yn y sector cyhoeddus*. Gallai cydweithredu pellach rhwng y pleidiau arwain at ddatblygu polisi ar y cyd, digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, a chyflwyniadau i lywodraethau.

17
Ion
2024

Wil Petherbridge and Berwyn Awards.

Following the Society’s exams in October, we’re pleased to announce that Nia Morus Lovelock and Owain Rogers have won the Wil Petherbridge and Berwyn awards.

The Wil Petherbridge Memorial Award, in memory of the Society's former secretary and a pioneer in translation in Wales - is awarded by the Society's Chief Examiner to the most promising candidate for Basic Membership for translation into Welsh.

This year's winner is Nia Morus Lovelock who works for Bla in Llangefni. Nia says "'Born in Anglesey, I worked as a primary teacher in south Wales for ten years, first in Pontypridd and then Barry, before moving back to Anglesey in 2002, where I worked as a supply teacher. Having wanted to be a translator for some years, I got a job with Bla translation in 2021 and have just been appointed as a Senior Translator there. I have two daughters, Grug who is 22 and Annes who is 15."

The Berwyn Award which recognises the immense contribution of Berwyn Prys Jones, who was Chairman of the Society for over a quarter of a century – is awarded by the Society's Chief Examiner to the most promising candidate for Basic Membership, for translation into English.

This year's winner is Owain Rogers who lives and works in Cardiff.

Both receive a cash prize of £150 and can attend 1 translation e-workshop at the Full level (worth £45) for free.

29
Awst
2023

Darlith Goffa Hedley Gibbard 2023

Ym mhabell y Cymdeithasau ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, Meinir Pierce Jones oedd yn traddodi darlith goffa Hedley Gibbard.

Yn ei sylwadau agoriadol wrth gyflwyno Meinir, fe gydymdeimlodd Prif Swyddog y Gymdeithas, Gwyn Williams, a theulu’r diweddar Hedley Gibbard ar farwolaeth Mair, gweddw Hedley. Roedd Mair wedi bod yn gefnogwr brwd a selog i’r ddarlith a bydd yn chwith mawr hebddi.

Testun darlith Meinir oedd “Y Gymraeg yn y nofel ‘Capten’”. Meinir enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Nhregaron 2022 am ei nofel yn olrhain hanes Elin a John Jones, Glan Deufor ym Mhen Llŷn ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ystod y ddarlith fe gafodd y gynulleidfa wybod cymaint yr oedd Meinir wedi pwyso ar atgofion ei phlentyndod, a geiriau ac ymadroddion pobl Nefyn a’r cylch wrth ysgrifennu’r nofel. Ond hefyd fe fanylodd Meinir ar yr holl waith ymchwil yr oedd hi wedi ei wneud, o ddarllen cyfnodolion yr amser i hunangofiannau capteiniaid llong lleol, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr iaith, a’r termau yr oedd hi’n ei defnyddio, yn gywir ac yn taro deuddeg.

Fe gafodd y gynulleidfa wledd i’r glust wrth i Meinir ddarllen pytiau o’i nofel a hefyd mewnwelediad i’r gwaith ymchwil sylweddoli oedd yn sail i’w llwyddiant.

Gwobrau 2022 Jennifer Geraint Morgan
Gwobrau 2022 Lois Geraint Sion
20
Rhag
2022

Enillwyr ein gwobrau yn 2022

Ein llongyfarchiadau i enillwyr gwobrau’r Gymdeithas yn 2022 ar sail llwyddiant yn yr Arholiadau Aelodaeth Testun.

Enillwyr Gwobr Goffa Wil Petherbridge oedd Morgan Owen, cyfieithydd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar y pryd ond sydd bellach yn aelod o staff Geiriadur Prifysgol Cymru, Jennifer Needs, cyfieithydd yng Nghyllid a Thollau EF, a Lois Roberts-Jones, cyfieithydd yn Cymen.

Cyflwynir Gwobr Goffa Wil Petherbridge er cof am gyn-Ysgrifennydd y Gymdeithas ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru. Caiff ei rhoi i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Gymraeg.

Enillwyr Gwobr Berwyn oedd Siôn Pennant Tomos, cyfieithydd yn Cymen ac Einir Lois Jones, athrawes sy’n ystyried gyrfa fel cyfieithydd.

Cyflwynir Gwobr Berwyn gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Saesneg. Mae’n anrhydeddu Berwyn Prys Jones a fu’n Gadeirydd y Gymdeithas am fwy na chwarter canrif ac yn arweinydd ysbrydoledig ar fyd cyfieithu yng Nghymru.

Wedi i ni fod yn fwy hyblyg wrth gynnig y gwobrau eleni oherwydd na chynhaliwyd arholiadau Sylfaenol ers Hydref 2019, byddwn yn dychwelyd i’r drefn arferol yn 2023 o ddyfarnu’r gwobrau hyn ar sail y ddwy rownd o arholiadau a gaiff eu cynnal yn ystod y flwyddyn (yn Ebrill a Hydref).

Tudalen 1 o 6