Newyddion
Tasglu cymorth iaith Wcráin y DU
Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y sefydliadau a ddaeth at ei gilydd yn ddiweddar mewn ymateb i’r rhyfel yn Wcráin i ddatgan ein cefnogaeth i ffurfio tasglu cymorth iaith Wcráin y DU.
Y 6 aelod o’r tasglu yw Institute of Translation and Interpreting (ITI), Chartered Institute of Linguists (CIOL), National Register for Public Service Interpreters (NRPSI), Association of Translation Companies (ATC), International Association of Conference Interpreters (AIIC UK & Ireland), a Charity Translators.
Mae’r cymorth ymarferol y mae’r tasglu yn ei gynnig yn cynnwys sicrhau bod templedi Wcreineg-Saesneg ar gyfer y dogfennau sydd eu hangen amlaf ar gyfer ceisiadau fisa ar gael yn rhad ac am ddim, a chynorthwyo cymunedau Wcreineg y DU trwy hwyluso cyfathrebu.
Mae Charity Translators, sefydliad gwirfoddol sy’n cydweithio gyda’r sector elusennol, wedi llunio rhestr o gynlluniau ac adnoddau sydd ar gael er mwyn cefnogi’r rhai sydd wedi’i heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin. Un sy’n gwirfoddoli gyda Charity Translators yw Cari Bottois, myfyriwr ymchwil PhD yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefannau’r partneriaid, ac fe’ch cyfeiriwn chi i dudalen Argyfwng Wcráin ar wefan ITI.
Elan yn ennill ysgoloriaeth y Gymdeithas
I Elan Grug Carter o Minera ger Wrecsam y dyfarnwyd yr ysgoloriaeth y mae’r Gymdeithas yn ei chynnig i un o’r myfyrwyr sy’n dilyn y Cynllun Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Elan yn dilyn llwybr yr MA yn amser llawn ac mae’n amlwg wrth ei bodd,
‘Rwyf wir yn mwynhau'r cwrs cyfieithu draw yn Aber,’ meddai. ‘Dwi’n teimlo fy mod i wedi dysgu llwyth yn barod ac yn edrych ymlaen at weddill y cwrs.’
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam, enillodd Elan radd BA Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd eleni. Mae hefyd yn gwneud gwaith cyfieithu achlysurol i GLlTEM.
Sbardunwyd awydd Elan i fod yn gyfieithydd yn ei harddegau pan oedd yn weinyddes mewn bwyty ger Wrecsam pan sylweddolodd cymaint o siaradwyr Cymraeg oedd yn ymweld â’r bwyty. Yn sgil hynny, penderfynodd gyfieithu’r bwydlenni i gyd i’r Gymraeg er mwyn hybu’r defnydd o’r iaith a chynyddu hyder y cwsmeriaid i ddefnyddio’r Gymraeg. Dywed iddi gael boddhad o wneud hyn a theimlo cryn falchder wrth weld newid yn ymagwedd cwsmeriaid.
Hon yw’r ail flwyddyn i ni gynnig ysgoloriaeth a hynny er mwyn cynorthwyo un myfyriwr yn ei astudiaethau ar ddechrau’r llwybr tuag at yrfa fel cyfieithydd proffesiynol. Ariennir yr ysgoloriaeth o Gronfa Sbarduno’r Gymdeithas.
Adroddiad Blynyddol 2020-21
Mae Adroddiad Blynyddol 2020-21 yn dangos i’r Gymdeithas lwyddo i barhau i ymateb i anghenion ei haelodau a chyflawni’r gwaith beunyddiol o weinyddu, trefnu a rheoli’r Gymdeithas er gwaetha’r cyfyngiadau ond ar lefel llai.
O’r dechrau’n deg, rhoddwyd pwyslais ar gadw mewn cysylltiad â’r aelodau ac ar ddarparu cymaint o wybodaeth berthnasol ag yr oedd modd ac ymateb yn gadarnhaol i’r amgylchiadau yr oeddem yn byw ynddynt. Roedd heriau cyfieithu ar y pryd o bell yn un o’r rhain. Serch iddi fod yn flwyddyn o ganslo a gohirio, o beidio â chynnal digwyddiadau ac o fethu croesawu aelodau newydd i’n plith, bu’n bosibl trefnu rhai gweithgareddau. Bu’r e-weithdy cyfieithu bach yn boblogaidd.
Y calondid mwyaf oedd na chafodd Covid-19 unrhyw effaith ar deyrngarwch yr aelodau i’r Gymdeithas a pharhaodd nifer yr aelodau’n uchel.
Amrywiol fu effaith Covid-19 ar waith cyfieithwyr, rhai wedi colli gwaith, ond bu llawer yn ddigon prysur. I gyfieithwyr ar y pryd roedd yn newid byd go iawn ac roedd eu proffesiynoldeb wrth addasu i ffyrdd newydd o weithio i’w ganmol yn fawr iawn.
Wrth nodi ei werthfawrogiad o gyfraniad yr aelodau drwy’r cyfnod ansicr hwn, dywed Huw Tegid Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas, yn yr adroddiad fod hynny’n arwydd o allu arbennig cymaint o’n haelodau i ymateb i sefyllfaoedd newidiol ac addasu eu ffyrdd o weithio. Pwysleisiodd hefyd iddi ddod yn fwyfwy amlwg pa mor bwysig fu rôl cyfieithwyr wrth geisio cyfleu gwybodaeth yn gywir a dealladwy.
Ariannwyd y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru yn 2020-21, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth hon.
Englynion i Nia ar ddathlu’r 20!
Ym mis Gorffennaf 2020 dathlodd Nia Wyn Jones, Rheolwr Systemau’r Gymdeithas, garreg filltir nodedig iawn, sef ugain mlynedd o weithio i’r Gymdeithas. Pan ddechreuodd Nia yn ei swydd, hi oedd yr unig un oedd yn amser llawn, Cyfarwyddwr rhan amser oedd Megan Hughes Tomos ar y pryd. Wrth i’r Gymdeithas dyfu cafodd gwmni eraill ohonom yn y swyddfa o fore gwyn tan nos!
Fel y gŵyr pob un sy’n gyfarwydd â’r Gymdeithas, mae Nia wedi chwarae rhan gwbl allweddol yn natblygiad y Gymdeithas yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid y lleiaf o’i gorchwylion niferus yw trefnu’r arholiadau a’r profion CAP a sicrhau eu bod yn mynd rhagddynt yn ddi-drafferth ac yn effeithiol. A phwy fydda'n dadlau!
Yn ei gadwyn hyfryd o englynion i ddathlu’r ugain mlynedd, mae Ifan Prys wedi gweu yn gelfydd yr adeiladau a fu’n gartref i’r Gymdeithas ers 2000, sef Aethwy ym Mhrifysgol Bangor; Bryn Menai, ein swyddfa ym Mangor Uchaf o 2001 tan fis Medi 2019; a’r swyddfa bresennol yn Intec, Parc Menai ar gyrion Bangor.
Nia
Mae eleni’n ugain mlynedd: daethost
i Aethwy i eistedd
a rhoi i’r swydd dy oll o’r sedd;
dy faes ar flaen dy fysedd.
Ac am dy waith i’r Gymdeithas, mynaist
ym Mryn Menai’i hurddas;
mor ddi-gwyn dy gymwynas,
un glew wyt a’r gorau glas.
Yna Intec oedd yr antur newydd
Nia, tithau’n brysur,
am mai mwy na phedwar mur
hyn o waith sydd i’w wneuthur!
Aelodaeth ac arholiadau, y ffeils
a’r ffôn a’r galwadau:
Nia rwyt yn sicrhau
y bythol drefn ar bethau.
Rydym yn ddiolchgar i Tonnau, Pwllheli, am drefnu i’r englynion gael eu hysgrifennu’n gain a’u fframio.
Cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi ysgrifennu at Microsoft Teams (3 Rhagfyr 2020) yn pwyso arnynt i sicrhau ar fyrder yr ategyn a fydd yn caniatáu cyfieithu ar y pryd wrth ddefnyddio Microsoft Teams.
Yn ein llythyr pwysleisiwyd fod y diffyg hwn wedi arwain at atal siaradwyr Cymraeg rhag defnyddio’u hiaith mewn cyfarfodydd. I gyfieithwyr ar y pryd mae wedi golygu lleihad sylweddol yn eu hincwm mewn blwyddyn lle mae effaith Covid-19 arnynt yn ariannol wedi bod yn andwyol iawn.
- Os ydych chi angen cyfieithydd ar y pryd sy’n cynnig gwasanaeth CAP o bell neu’n chwilio am gyngor ynghylch hyn, ewch i'r dudalen yn yr adran Cyfieithu ar y pryd ar y wefan hon.
Mari Lisa
Gyda thristwch mawr y clywsom y bu Mari Lisa farw’n sydyn.
Roedd Mari’n un o Gyfarwyddwyr y Gymdeithas, yn farciwr ac yn diwtor, ac yn un a gyfrannodd yn hael i weithgareddau’r Gymdeithas. Yn ogystal â bod yn gyfieithydd uchel ei pharch, roedd Mari’n nofelydd ac yn fardd. Fe welwn ei cholli’n arw iawn.
Estynnwn, fel Cymdeithas, ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Mari yn eu colled lem.
Adroddiad ar weithgareddau 2019-20
Mae'r adroddiad ar weithgareddau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn 2019-20 yn dangos i’r Gymdeithas barhau i gynnal arholiadau aelodaeth a darparu gwahanol weithgareddau a chyfleoedd datblygu proffesiynol, parhawyd i gydweithio â’r sector addysg uwch, a pharhawyd i feithrin cysylltiadau a chydweithredu gyda sefydliadau cyhoeddus a chymdeithasau cyfieithwyr eraill er budd a lles y Gymdeithas ac i godi proffil y proffesiwn cyfieithu yng Nghymru.
Unwaith eto eleni, un peth a roddodd bleser mawr i ni oedd fod nifer aelodau’r Gymdeithas ar 31 Mawrth 2020 yn 411, y nifer uchaf erioed.
Wrth nodi ei werthfawrogiad o gyfraniad yr aelodau, mae Huw Tegid Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas, yn ei Ragair, yn edrych ymlaen yn obeithiol,
‘Beth bynnag a ddaw, gobeithio y byddwn ni i gyd yn cael ein calonogi ein bod ni’n rhan o Gymdeithas o dros bedwar cant o aelodau, pob un â’i ran yn y gwaith o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu fel rhan annatod o fywyd cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a hamdden ein cenedl. Diolch i bob un ohonoch am eich cyfraniad at y gwaith hollbwysig o sicrhau bod modd i ddinasyddion Cymru’r cyfnod Covid barhau i fyw a gweithio drwy’r Gymraeg.’
Caiff Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth hon.
Her Gyfieithu 2020
Enillydd Her Gyfieithu 2020 yw Grug Muse.
Bardd, golygydd ac ymchwilydd yw Grug Muse. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn Y Stamp. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gan Barddas yn 2017, a chyhoeddwyd ei gwaith yn O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales ac eraill. Mae hi’n un o ddeiliad Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru yn 2020. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Grug yn ennill gwobr o £200, yn ogystal â Ffon yr Her Gyfieithu, a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, am y cyfieithiad gorau i’r Gymraeg.
Wrth noddi Ffon yr Her Gyfieithu unwaith yn rhagor, mae’n bleser gan y Gymdeithas gydnabod gwaith crefftus Elis Gwyn wrth iddo naddu’r wobr unigryw hon o ddarn o goedyn o gyffiniau Llanystumdwy.
Yr her eleni oedd cyfieithu dilyniant o gerddi byrion dan y teitl ‘Nahaufnahmen’ gan y bardd Twrcaidd Zafer Şenocak o’r Almaeneg. Mae Zafer Şenocak yn byw ym Merlin, ac mae wedi dod yn llais blaenllaw yn nhrafodaethau’r Almaen ar amlddiwyllianedd, hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol, ac yn gyfryngwr rhwng diwylliannau Twrcaidd ac Almaeneg.
Daeth 11 ymgais i law beirniad yr Her Gyfieithu, Mererid Hopwood, a dywedodd mai ymgais Grug oedd y “cyfieithiad wnaeth ddal fy nychymyg yn fwy nag un o’r lleill ac a lwyddodd orau i greu’r teimlad o ‘gerdd’.”
Trefnwyd y gystadleuaeth gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, O’r Pedwar Gwynt, Poetry Wales a Goethe-Institut.
Enillydd y Translation Challenge 2020 yw Eleoma Bodammer.
Cynhelir digwyddiad digidol i ddathlu llwyddiant Grug ac Eleoma ar 30 Medi 2020, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu.
I ddarllen y cerddi buddugol a’r beirniadaethau, ewch i wefan Wales PEN Cymru.
Cyfieithu ar y pryd o bell
Mewn ymateb i’r gofynion newydd ar gyfer cyfieithu ar y pryd yn ystod y pandemig presennol, rydym wedi ychwanegu is-adran newydd at y dudalen gwasanaeth chwilio am gyfieithydd ar y pryd ar ein gwefan a fydd yn caniatáu i bobl ddod o hyd i Aelodau CAP sy’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o bell.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi’r nodyn cyngor, ‘Cynnal cyfarfodydd fideo dwyieithog’. Paratowyd y nodyn cyngor brys hwn er mwyn darparu cyngor brys i sefydliadau yn ystod yr argyfwng byd-eang a achosir gan COVID-19. Bwriad y nodyn yw rhoi arweiniad ymarferol i sefydliadau ar sut y gellid parhau i gynnig gwasanaethau dwyieithog o safon yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae'r ddogfen hon yn atodiad i'r ddogfen gyngor ‘Drafftio dwyieithog, cyfieithu a defnyddio’r Gymraeg wyneb yn wyneb' a gyhoeddwyd yn 2019.
Mae’r nodyn cyngor yn cyfeirio at y canllawiau er mwyn defnyddio cyfieithydd ar y pryd wrth ddefnyddio’r platfform ‘Zoom’ a luniwyd gan Amgueddfa Cymru. Mae’r canllawiau ymarferol a manwl hyn yn cynnig cyfarwyddiadau penodol i bob un sydd ynghlwm wrth gyfarfod. Er mai at eu defnyddio’n fewnol y lluniwyd y cyfarwyddiadau hyn yn wreiddiol, diolchwn i Amgueddfa Cymru am eu rhannu’n gyhoeddus fel y byddant o gymorth i eraill wrth iddynt gynnal cyfarfodydd dwyieithog o bell.
Neges i Ganghellor y Trysorlys yn gofyn am becyn cymorth i'r hunangyflogedig
Anfonwyd y neges hon at Ganghellor y Trysorlys ar 25 Mawrth 2020 dan y pennawd ‘Support self-employed translators and interpreters’:
Yn gyntaf oll, gobeithio eich bod chi, eich teulu a'ch staff yn iach ac yn ddiogel yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Rwy'n ysgrifennu atoch ar ran aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Ymhlith ein 410 o aelodau, mae rhyw 43% yn hunangyflogedig.
Yn sgil mesurau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â lledaeniad y coronafeirws rhoddwyd y gorau ar unwaith i gyfarfodydd ac mae hynny wedi arwain at ganslo aseiniadau a cholli incwm i gyfieithwyr ar y pryd hunangyflogedig. Mae gwaith ysgrifenedig i gyfieithwyr hunangyflogedig hefyd yn cyflym ddirwyn i ben.
Er ein bod yn croesawu'r mesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi busnesau bach a chanolig yn yr argyfwng hwn, mae pandemig y coronafeirws yn peri bygythiad sydd heb ei weld o’r blaen i fywoliaeth yr aelodau hunangyflogedig hyn gan nad yw’r mesurau hyn i gynorthwyo'r sector busnes yn ymdrin â nhw. Maent yn wynebu dyfodol ansicr a distryw ariannol o bosibl. Ar ben hynny, nid ydynt yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol am unrhyw amser a dreulir yn hunanynysu.
Rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn y Cynllun Diogelu Swyddi Coronafeirws i gynnwys gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd, er mwyn i gyfieithwyr hunangyflogedig hefyd elwa ar drefniadau a allai dalu 80% o'u henillion am eu bod yn methu gweithio bellach. Byddai ffurflenni treth diweddar yn ffordd effeithiol o asesu pwy sy’n gymwys.
Mae'n annheg bod pobl gyflogedig yn cael eu hamddiffyn gan fesurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ond bod pobl hunangyflogedig wedi’u hanwybyddu. Mae'n hanfodol bod y mesurau cymorth i’r sector busnes yn cael eu hymestyn i gynnwys a diogelu'r hunangyflogedig, a hynny ar fyrder.