Newyddion
Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
Wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar ‘Strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’, mae sylwadau’r Gymdeithas yn canolbwyntio ar ‘Maes datblygu 5: Cefnogi’, ac ar gyfieithu a sefyllfa’r Gymdeithas yn benodol.
Ar yr un pryd, mae’r Gymdeithas wedi datgan ei chefnogaeth i’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n darged heriol ac uchelgeisiol iawn y bydd gofyn am gydweithio effeithiol rhwng gwahanol gyrff, mudiadau a phartneriaid i’w wireddu. Bydd gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ei chyfraniad hithau i’w wneud.
Mae’r Gymdeithas yn falch o weld y “bydd buddsoddiad hirdymor yn y seilwaith hwn yn parhau’n flaenoriaeth er mwyn rhoi’r iaith ar sylfaen gadarn at y dyfodol”. Pwysleisiodd y Gymdeithas ei hawydd i weld Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y proffesiwn/diwydiant cyfieithu, a pharhau i gefnogi Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Adroddiad ar weithgareddau 2015-16
Cyhoeddwn ein hadroddiad ar weithgareddau’r Gymdeithas yn 2015-16, sef y flwyddyn y daeth grant Comisiynydd y Gymraeg i’r Gymdeithas i ben. Yn 2016-17 cawsom grant gan Lywodraeth Cymru.
Fe welwch yn yr adroddiad i ni barhau i gynnal arholiadau aelodaeth a darparu gwahanol weithgareddau a chyfleoedd datblygu proffesiynol, parhawyd i weithio’n agos â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a pharhawyd i feithrin cysylltiadau a chydweithredu gyda sefydliadau cyhoeddus a chymdeithasau cyfieithwyr eraill er budd a lles y Gymdeithas ac i godi proffil y proffesiwn/diwydiant cyfieithu yng Nghymru.
Yn ei Rhagair i’r adroddiad dywed Cadeirydd y Gymdeithas, Claire Richards,
“Rydym yn cyhoeddi’r adroddiad hwn ar adeg dathlu 40 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r Gymdeithas wedi cyflawni cryn dipyn wrth godi statws cyfieithu a phroffesiynoli’r maes. Mae ganddi gyfraniad yr un mor bwysig i’w wneud wrth i’r Gymraeg wynebu’r heriau sylweddol sydd o’i blaen.”
Cerddi i ddathlu'r 40
I nodi 40 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas ar 15 Hydref 1976, gofynnwyd i ddau o’n haelodau sydd hefyd yn Brifeirdd, Glenys Roberts a Rhys Iorwerth, ysgrifennu cerddi i nodi’r achlysur. Cafwyd cyfle i glywed y ddwy gerdd am y tro cyntaf yn y cinio dathlu a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 21 Hydref 2016.
Diolch yn fawr i Glenys ac i Rhys am gerddi ardderchog.
Trin y gerddi gan Glenys Roberts
Y Cyfieithydd Cymraeg gan Rhys Iorwerth
Enw parth newydd: 'cyfieithwyr.cymru'
Ddydd Gwener, 30 Medi 2016, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cyfieithu, bydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn lansio’i enw parth newydd, ‘cyfieithwyr.cymru’.
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau ‘cyfieithwyr.cymru’ ar gyfer y Gymdeithas gan mai’r enw parth hwn oedd y dewis amlwg i ni fel un o gymdeithasau cenedlaethol Cymru,” meddai Claire Richards, Cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
“Wrth i ni ddathlu 40 mlynedd ers ein sefydlu, rydym hefyd yn falch iawn o allu ymuno â’r nifer cynyddol o sefydliadau, mudiadau a chwmnïau Cymraeg sydd wedi mabwysiadu’r enw parth .cymru.”
O hyn ymlaen www.cyfieithwyr.cymru fydd cyfeiriad gwefan y Gymdeithas. Yn gynharach eleni, fe lansiodd y Gymdeithas wefan newydd. Ceir arni fwy o gyfleoedd i’w haelodau roi gwybod i ddarpar gwsmeriaid amdanynt eu hunain a’u gwasanaethau.
“Mae’n hynod bwysig i’n haelodau fod gennym ni wefan sy’n cynnig pob math o wybodaeth am gyfieithu, yn ogystal â’r modd i bobol ddod o hyd i gyfieithydd,” meddai Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
“Bydd yr enw parth newydd yn cryfhau’n sefyllfa wrth i ni barhau i gydweithredu gyda sefydliadau cyhoeddus a chymdeithasau proffesiynol eraill i gyfieithwyr i godi proffil cyfieithu’n gyffredinol, yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.”
Rhwydwaith Cyfiawnder Cymru
Brynhawn dydd Iau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni bu Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr y Gymdeithas, yn annerch cyfarfod blynyddol Rhwydwaith Cyfiawnder Cymru. Yn ei anerchiad, tynnodd sylw at un o’r partneriaethau allweddol sydd gan y Gymdeithas, sef ei pherthynas agos ag Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM er lles a budd defnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd. Mae’r cydweithio wedi arwain at drefniadau effeithiol ar gyfer cyfieithu ar y pryd Cymraeg/Saesneg o safon yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yng Nghymru, trefniadau sy’n seiliedig ar y safonau proffesiynol a arddelir ac a hybir gan y Gymdeithas.
Glenys yn ennill Her Gyfieithu 2016
Llongyfarchiadau i Glenys Roberts ar ennill Her Gyfieithu 2016 i’r Gymraeg!
Cyflwynwyd y Ffon Farddol i Glenys mewn seremoni yn stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau gan Gadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Claire Richards.
Wrth noddi’r wobr unigryw hon unwaith yn rhagor eleni, mae’n bleser gan y Gymdeithas gydnabod gwaith crefftus Elis Gwyn wrth iddo’i naddu o ddarn o goedyn o gyffiniau Llanystumdwy.
Yr her eleni oedd cyfieithu’r gerdd Sbaeneg ‘El Conejo y la Chistera’ gan y bardd o Fecsico, Pedro Serrano. Trefnwyd y gystadleuaeth gan WalesPENCymru a'r Gyfnewidfa Lên, a noddwyd hi gan Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn ei feirniadaeth, dywedodd Ned Thomas i gyfieithiad Glenys Roberts ragori ar yr ymgeiswyr eraill oherwydd "ei gafael ar deithi’r iaith Gymraeg a'i gallu oherwydd hynny i gyfleu ystyr y gwreiddiol mewn Cymraeg naturiol ac idiomatig". Mae cyfieithiad Glenys, dan y teitl ‘Y gwningen a’r het silc’, wedi’i gyhoeddi ar wefan y cylchgrawn llenyddol newydd, ‘O’r Pedwar Gwynt’.
Roedd dydd Iau yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn un o lawenydd mawr i Glenys a’i gŵr Guto, gan mai iddo ef y dyfarnwyd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni. Llongyfarchiadau i Guto hefyd!
Darlith Goffa Hedley Gibbard
‘Troi a throsi: dathlu 40 mlynedd’
Darlithydd: Berwyn Prys Jones
Pabell y Cymdeithasau 1, dydd Iau, 4 Awst, am 12.00
Gan fod Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru eleni’n dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, mae’n addas mai cipolwg dros y deugain mlynedd diwethaf fydd pwnc ei darlith flynyddol eleni, sef ‘Troi a throsi: dathlu 40 mlynedd’. Traddodir y ddarlith gan Berwyn Prys Jones, Cadeirydd y Gymdeithas am y rhan helaethaf o’r cyfnod hwnnw a ffigur amlwg a dylanwadol yn natblygiad y Gymdeithas a’r diwydiant/proffesiwn cyfieithu yng Nghymru.
Mae’n 40 mlynedd ers i dri ar ddeg o gyfieithwyr gyfarfod yn Aberystwyth ar 17 Hydref 1976 a phenderfynu bod angen sefydlu cymdeithas broffesiynol. Bryd hynny doedd ond rhyw ugain o bobol yn gweithio fel cyfieithwyr proffesiynol amser-llawn. Un nad oedd yn y cyfarfod hwnnw oedd Berwyn Prys Jones. Ar y pryd roedd yn gyw cyfieithydd yn y Swyddfa Gymreig ac fe’i gadawyd yn y swyddfa i gynnal holl faich y gwaith cyfieithu am ddiwrnod cyfan er mwyn i Moc Rogers a Mary Jones, y ddau gyfieithydd arall, fynd i’r cyfarfod. Etholwyd Moc yn gadeirydd a Mary’n ysgrifennydd cynta’r Gymdeithas.
Yn y ddarlith bydd Berwyn yn sôn am ddyddiau cynnar y Gymdeithas pan oedd hi’n gymdeithas wirfoddol a sut y datblygodd hi’n gymdeithas broffesiynol â staff amser-llawn wedi iddi gael grant. Olrheinir sut yr aethpwyd ati i sefydlu’r drefn asesu ac arholi yn y 1990au, yn bennaf dan arweiniad y diweddar Wil Petherbridge, a sut y mae’r drefn arholi’n parhau’n elfen greiddiol a phwysig o waith y Gymdeithas hyd heddiw. Bydd yn pwysleisio hefyd ymlyniad parhaus y Gymdeithas wrth safonau uchaf y proffesiwn, yr arweiniad y mae hi wedi’i roi, sut y mae hi wedi hybu datblygiad proffesiynol, wedi llunio’r cyfeirlyfr cyntaf o aelodau ac wedi creu gwefan gynta’r Gymdeithas, a’r berthynas y mae hi wedi ei meithrin dros y blynyddoedd â chymdeithasau cyfieithu proffesiynol eraill ac â chyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae Berwyn Prys Jones yn obeithiol.
“Wrth i’r Gymdeithas gyrraedd ei deugain oed, mae un peth yn sicr. Mae hi wedi goroesi!” meddai.
“Mae ganddi arweiniad cadarn yn nwylo’i staff a’i Chadeirydd, ac mae to newydd o gyfarwyddwyr wedi dod i’w lle dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwy’n ffyddiog y byddan nhw’n glynu’r un mor gadarn â’u rhagflaenwyr wrth nod a dyheadau’r Gymdeithas. Maen nhw’n wynebu her fawr, yn enwedig yn sgil cyflwyno’r Safonau, ond mae lles y diwydiant a’r proffesiwn cyfieithu yn ddiogel yn eu dwylo nhw.”
Cynhaliwyd darlith flynyddol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru oddi ar 2002 i goffáu Hedley Gibbard (1936-2001) fel gwerthfawrogiad o’i gyfraniad a’i waith
arloesol ym maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg yng Nghymru.
I gael gwybod rhagor, cysylltwch â Geraint Wyn Parry, 07872 102944.
Dydd Iau cyfieithu!
Bydd dydd Iau, 4 Awst, yn ddiwrnod o ddigwyddiadau cyfieithu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cynhelir Darlith Goffa Hedley Gibbard, darlith flynyddol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ym Mhabell y Cymdeithasau 1, am hanner dydd.
Gan fod y Gymdeithas eleni'n dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, mae'n addas iawn mai ‘Troi a throsi: dathlu 40 mlynedd’ fydd teitl y ddarlith flynyddol eleni. A phwy well i’w thraddodi na Berwyn Prys Jones, Cadeirydd y Gymdeithas am y rhan helaethaf o’r cyfnod hwnnw, a ffigwr amlwg a dylanwadol yn natblygiad y Gymdeithas a’r diwydiant/proffesiwn cyfieithu yng Nghymru.
Cynhaliwyd darlith flynyddol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru oddi ar 2002 i goffáu Hedley Gibbard (1936-2001) fel gwerthfawrogiad o’i gyfraniad a’i waith arloesol ym maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg yng Nghymru.
Cyn hynny, am 10.30am yn stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yng nghwmni Elin Jones AC, caiff y cymhwyster ôl-raddedig newydd Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ei lansio. Bydd cyfle i chi gael gwybod rhagor am y cwrs arloesol newydd hwn gan ddarlithydd y cwrs, Mandi Morse o Brifysgol Aberystwyth. I gael gwybod rhagor, ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yna am 3.00pm caiff enillydd cyfieithiad Cymraeg Her Gyfieithu 2016 ei gyhoeddi mewn seremoni yn stondin Prifysgol Aberystwyth. Yr her eleni oedd cyfieithu’r gerdd Sbaeneg ‘El Conejo y la Chistera’ gan y bardd o Fecsico, Pedro Serrano. Y beirniad oedd Ned Thomas. Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £250 ac yn cael ei anrhydeddu â’r Ffon Farddol. Wrth noddi’r wobr unigryw hon unwaith yn rhagor, mae’n bleser gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru gydnabod gwaith crefftus Elis Gwyn wrth iddo’i naddu o ddarn o goedyn o gyffiniau Llanystumdwy.
Profiad gwerth chweil – diwrnod yn y Senedd
Enillydd y gystadleuaeth cyfieithu i’r oedran 19-25 yn Eisteddfod yr Urdd yn 2016 oedd Ffion Pritchard.
Ei gwobr oedd cael treulio diwrnod yng Ngwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad Cenedlaethol. Trefnwyd diwrnod llawn o weithgareddau iddi yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2016. Cafodd gyfle i flasu sawl agwedd ar waith y Gwasanaeth, gan gynnwys gweld sut yr eir ati i lunio’r Cofnod, cyflwyniadau i gyfieithu peirianyddol a chyfieithu ar y pryd, gwybodaeth am y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, a chyfle i gyfieithu darn o ddeddfwriaeth. Bu hefyd yn gweld sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Siambr.
Cafodd Ffion ei chroesawu i’r Senedd gan y Llywydd, Elin Jones. Hefyd cafodd gyfarfod Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, yng nghwmni Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd, a Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr y Gymdeithas.
Yr hyn a greodd yr argraff fwyaf ar Ffion oedd y grefft o gyfieithu ar y pryd.
“Roedd clywed y cyfieithwyr ar y pryd yn arddangos eu doniau yn anhygoel. Dyna grefft a hanner!”, meddai hi yn ei blog yn disgrifio’i diwrnod yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Un o Aberdâr yw Ffion yn enedigol. Enillodd radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddilyn hynny gyda gradd MPhil mewn cyfieithu llenyddiaeth plant i’r Gymraeg oddi yno yn 2015. Ers 2013 bu’n gyfieithydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Yn ddiddorol ddigon, daeth Ffion yn Aelod Sylfaenol o’r Gymdeithas flwyddyn yn ôl ar yr un pryd â Heledd Fflur Hughes, enillydd y gystadleuaeth hon yn 2015.
Mae
cyfieithiad buddugol Ffion, a beirniadaeth Mari Lisa, i’w gweld yng nghyfrol
‘Cyfansoddiadau Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016’.
Mae’r gystadleuaeth cyfieithu yn ffrwyth cydweithio rhwng yr Urdd a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Cynulliad Cenedlaethol am fod mor barod i gynnig diwrnod o brofiad gwaith i’r enillydd.
Annog Aelodau’r Cynulliad i ddefnyddio’r Gymraeg
Mae’r Gymdeithas wedi anfon neges at holl aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hannog i ddefnyddio’r adnoddau a’r cyfleusterau sydd ar gael iddyn nhw yn y Cynulliad er mwyn sicrhau y caiff y Gymraeg ei defnyddio yn naturiol ac yn aml yn y Siambr ac mewn pwyllgor. Cyfeiriwyd yn bendol at y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd a ‘Microsoft Translator’.