Newyddion
Tystiolaeth i’r Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth i’r Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg ym maes Datblygu Economaidd a Gweinyddu Llywodraeth Leol, dan gadeiryddiaeth Rhodri Glyn Thomas AC, ac a sefydlwyd gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2015. I gael gwybod rhagor am y Gweithgor, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae tystiolaeth y Gymdeithas yn canolbwyntio ar swyddogaeth bwysig cyfieithu wrth ddatblygu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yng ngweinyddiaeth Llywodraeth Leol ac wrth weithredu Safonau’r Gymraeg. Gwna’r Gymdeithas yr argymhellion a ganlyn:
• Y gallai cyfieithu arwain y ffordd wrth i awdurdodau chwilio am ddulliau o gydweithio’n effeithiol.
• Dylid sicrhau bod unedau cyfieithu cryf ym mhob awdurdod.
• Dylai uned gyfieithu pob awdurdod berthyn i adran y Prif Weithredwr.
• Dylai pob awdurdod wybod beth yw sgiliau iaith pob un o’i staff trwy gynnal asesiad cynhwysfawr a thrylwyr.
• Dylid sicrhau strwythur staffio bendant yn yr unedau cyfieithu.
• Dylid sicrhau fod yr awdurdodau’n cynnig digon o gyfleoedd i gyfieithwyr ddatblygu’n broffesiynol.
• Dylid sicrhau fod pob awdurdod yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ac yn rhannu adnoddau.
• Dylid sicrhau bod offer cyfieithu ar y pryd priodol ar gael ym mhob awdurdod.
• Dylai’r holl awdurdodau newydd arddel safonau proffesiynol y Gymdeithas.
Gwobr Goffa Wil Petherbridge 2015
Cafwyd croeso cynnes yn swyddfa WCVA yn Aberystwyth fore dydd Mawrth, 8 Mawrth 2016, wrth i ni gynnal seremoni fach hyfryd ac anffurfiol i gyflwyno Gwobr Goffa Wil Petherbridge i Rhodri Owain, cyfieithydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Cyflwynwyd y wobr iddo gan Sandra Petherbridge a Mary Jones.
Her Gyfieithu 2016
Mae’r Her Gyfieithu yn ei hôl eleni, ac unwaith eto y Gymdeithas sydd wedi comisiynu a noddi’r Ffon Farddol a roddir i’r enillydd Cymraeg.
Yr her eleni fydd cyfieithu’r gerdd ‘El Conejo y la Chistera’ gan y bardd o Fecsico, Pedro Serrano, o’r Sbaeneg un ai i’r Gymraeg neu’r Saesneg. Ned Thomas fydd yn beirniadu’r cynigion Cymraeg, a’r Athro Richard Gwyn y rhai i’r Saesneg.
Bydd yr enillwyr yn y ddwy iaith yn cael gwobr o £250. Bydd yr enillydd Cymraeg hefyd yn cael ei anrhydeddu â Ffon Farddol. Wrth noddi’r wobr unigryw hon am y pedwerydd tro, mae’n bleser gan y Gymdeithas gydnabod gwaith crefftus Elis Gwyn wrth iddo’i naddu o ddarn o goedyn o gyffiniau Llanystumdwy.
Caiff y cyfieithiad Cymraeg buddugol ei gyhoeddi yn y cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt.
Rhaid i’r cynigion gael eu hanfon at Sally Baker - walespencymru@gmail.com - erbyn hanner nos ar 31 Mawrth 2016. Dylech gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt yn yr e-bost ond ni ddylent ymddangos yn ffeil y cyfieithiad.
Ni fydd yn rhaid i aelodau’r Gymdeithas dalu’r ffi o £6.00 wrth roi cynnig ar gyfieithu i’r Gymraeg.
Trefnir yr Her Gyfieithu gan Wales PEN Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.
Arholiadau Aelodaeth Testun - 16 Ebrill 2016
Dydd Iau, 24 Mawrth 2016, erbyn 1.00pm fan bellaf, fydd y dyddiad olaf i gofrestru ar gyfer Arholiadau Aelodaeth Testun nesaf y Gymdeithas, ar y lefelau Cyflawn a Sylfaenol, a gynhelir ddydd Sadwrn, 16 Ebrill 2016, yn Aberystwyth, Caerdydd a Glynllifon (ger Caernarfon).
Ni fu cynnydd yn y ffioedd ers 2015. Y tâl yw am sefyll un papur fydd £90 i aelodau’r Gymdeithas a £105 i bawb arall; a’r tâl am sefyll y ddau bapur fydd £150 i aelodau’r Gymdeithas a £180 i bawb arall.
Gwobr gwerth ei chael: Heledd yn treulio diwrnod yn y Senedd
Yn ddiwedar cafodd Heledd Fflur Hughes ddiwrnod i’w gofio pan gafodd y cyfle i dreulio diwrnod yng Ngwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad Cenedlaethol. Dyma wobr Heledd am ennill y gystadleuaeth cyfieithu i’r oedran 19-25 yn Eisteddfod yr Urdd yn 2015... rhagor o wybodaeth.
Ceir copi o'r darn prawf ar gyfer cystadleuaeth 2016 yma neu am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Urdd.