Nod y Prawf CAP yw efelychu, orau y gellir, sefyllfa lle bydd gofyn cyfieithu ar y pryd fel y gellir asesu gallu ymgeiswyr i gyfieithu ar y pryd yn rhugl a llyfn a chyfleu neges y gwreiddiol yn gywir.
Cynhelir y Prawf CAP o bell trwy Zoom, gyda’r ochr dechnegol dan reolaeth CTV Sound Studios, Caerdydd.
Yn y Prawf CAP bydd gofyn i ymgeiswyr gyfieithu dau ddarn o natur wrthgyferbyniol, o ryw 10 munud yr un. Neilltuir hyd at 15 munud i ddarllen gwybodaeth am y ddau ddarn cyn dechrau cyfieithu. Chwaraeir y darnau prawf trwy Zoom. Caiff prawf pob ymgais ei recordio a chaiff y recordiad hwnnw ei anfon at ddau aelod o Gofrestr Aseswyr CAP y Gymdeithas i'w asesu
Cyn sefyll y Prawf CAP byddai'n fuddiol i ymgeiswyr ddarllen yr adroddiadau cyffredinol a luniwyd yn dilyn y Profion CAP a fu.