THE PROFESSIONAL ASSOCIATION FOR ENGLISH TO/FROM WELSH TRANSLATORS AND INTERPRETERS

Workshops

One of the objectives of Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru is to ensure opportunities for its members and other translators to improve, enhance and develop their skills and knowledge.

We, therefore, organise workshops which are relevant to the needs of translators and interpreters at every level of their careers. These workshops are held in different locations throughout Wales in order to make them convenient for translators and interpreters wherever they work and live to attend. This provision is considered to be a very important service that is universally valued. We also organise the translation e-workshop, which is a form of training which takes place via e-mail only.

Workshops will be held through the medium of Welsh unless otherwise stated.

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru is part funded by the Welsh Government.

Ysgrifennu Cymraeg ar gyfer y we a’r cyfryngau cymdeithasol

An introduction to writing clear, concise and catchy Welsh for the web and social media.

Tutor: Dr Llion Jones

Dr Llion Jones is Director of Canolfan Bedwyr at Bangor University. He has over three decades of teaching experience in the higher education sector, including extensive experience of delivering professional courses on how to use Welsh in the context of different media.

BANGOR – Canolfan Bedwyr, Ffordd y Coleg. Tuesday 16 April 0930-1300
A computer is provided, but you may bring your own laptop.

CAERDYDD - Prifysgol Met Caerdydd, Campws Cyncoed Thursday 18 April 0930-1300
An AppleMac computer is provided but you may bring your own laptop.

Max 12 people.

Cost: Members £100 Others £140

Adolygu Gwaith Cyfieithwyr Llai Profiadol

A practical introduction for less experienced translators into reviewing their work.

Monday , 4 March 2024 - Canolfan Intec, Parc Menai, Bangor

Thursday, 7 March2024,  - tba - Cardiff

Price: Members £20  (including Recognised Companies, Recognised Organisations and Prospective Members)

Everyone else: £25

Cyfieithu Deddfwriaethol

DROS TEAMS

Cyflwyniad i anghenion cyfieithu deddfwriaethol dan ofal Llinos Pierce Williams, Pennaeth yr Uned Cyfieithu Deddfwriaeth, Y Gwasanaeth Cyfieithu, Llywodraeth Cymru.

MWY O FANYLION I DDILYN.

Cymraeg Clir

Practical introduction to Cymraeg Clir
(Cymraeg Clir is an attempt to encourage public bodies in Wales to write the Welsh versions of public documents in simple, natural and clear Welsh).

Tuesday, 10 September 2024 - Bryn Menai, Bangor
Tuesday, 17 September 2024 - Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
Tuesday, 24 September 2024 - Canolfan yr Urdd, Caerdydd FULL

Cost:

£120.00 - members
£160.00 - others

This one day workshop will be held through the medium of Welsh.

Sesiwn Flasu Cyfieithu ar y Pryd (CAP)

Cyfle i brofi sut beth yw cyfieithu ar y pryd gyda Lynwen Davies sy’n darlithio ar gwrs Cyfieithu ar y Pryd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mewn sesiwn ymarferol a rhyngweithiol, bydd Lynwen yn trafod ac yn arddangos yr hyn mae’n rhaid i Gyfieithydd ar y Pryd wneud a bydd cyfle i bawb roi cynnig arni mewn amgylchedd cefnogol.

Addas ar gyfer rhai sydd heb brofi CAP ond sy’n chwilfrydig am y grefft ac efallai’n awyddus i gymryd y cam cyntaf i’r maes.


Dyddiadau:


Caerdydd: Cofrestrfa, Prifysgol Cymru, Parc Cathays.

12 Medi 2024 09:30-1230

12 Medi 2024 1400-1700 – yn ddibynnol ar niferoedd, fe all y ddwy sesiwn cael eu cyfuno.


Bangor: Canolfan Intec, Parc Menai.

19 Medi 2024 09:30-1230

19 Medi 2024 1400-1700 – yn ddibynnol ar niferoedd, fe all y ddwy sesiwn cael eu cyfuno.


Pris: Aelodau (gan gynnwys Sefydliadau Cydnabyddedig a Darpar Aelodau) £45

Eraill: £65

Golygu a Gwirio

Tiwtor: Marian Beech Hughes
Bu Marian yn Bennaeth Adran Olygyddol Cyngor Llyfrau Cymru am flynyddoedd cyn iddi hi ymddeol yn gynnar

Nod y gweithdy hwn yw cael blas ar egwyddorion golygu, gan ganolbwyntio ar olygu testunau a’u cyfieithiadau ochr yn ochr. Bydd yn ddiwrnod gwerth chweil i unrhyw un sy’n golygu testunau a’u cyfieithiadau wrth ei waith, naill ai fel cyfieithydd, neu yn rhywun y mae delio gyda chyfieithu a chyfieithiadau’n rhan o’i waith ond nad yw’n gyfieithydd proffesiynol.

Bydd yr ymarferion yn canolbwyntio ar gywirdeb o ran yr iaith, cywirdeb o ran yr ystyr a’r ffeithiau, ar idiom naturiol ac arddull, ac ar synnwyr cyffredin. Bydd trafodaeth hefyd ar gysoni gwaith yn ogystal â’r cwestiwn beth yw arfer da.

Dyddiadau:

Canolfan Intec, Bangor.
Dydd Iau 10 Hydref 2024 0930-1630

Canolfan yr Urdd, Caerdydd.
Dydd Mawrth 15 Hydref 2024 0930-1630

Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth.
Dydd Mawrth 22 Hydref 2024 0930-1630


Pris: Aelodau (gan gynnwys Sefydliadau Cydnabyddedig a Darpar Aelodau) £100

Eraill: £130

Caboli drafft

Pwrpas y gweithdy fydd rhannu awgrymiadau ymarferol ar sut i droi drafft cyntaf yn destun cywir sy'n llifo’n rhwydd. Bydd y gweithdy'n addas ar gyfer rhai sy'n gweithio gyda, neu heb, beiriant cyfieithu.

Cyfuniad o gyflwyniad, ymarferion a thrafodaeth yn rhoi sylw i faterion fel deall a chyfleu ystyr y gwreiddiol, canfod ac osgoi maglau, canfod ac osgoi amwysedd, rhythm a theithi'r Gymraeg, a sgiliau hunanfeirniadaeth. Rhoddir ymarferion ar gywirdeb, cysondeb a chystrawennau, cymharu darnau drafft a darnau gorffenedig, a thynnu 'het cyfieithydd' a gwisgo 'het darllenydd' wrth ymdrin â'r un testun.

Lle i uchafswm o 12 er mwyn sicrhau digon o sylw i bawb a digon o gyfle i drafod a chodi cwestiynau.

Cyfieithu Creadigol

Tiwtor - Rhys Iorweth

Bydd y gweithdy diwrnod hwn yn trin a thrafod creadigrwydd wrth gyfieithu testunau cyffredin o ddydd i ddydd. Drwy gyfuniad o astudiaethau achos a thasgau ymarferol, byddwn ni’n edrych ar y canlynol:

  • Beth yn union ydy ystyr bod yn greadigol wrth gyfieithu?
  • Sut i osgoi syrthio i’r fagl o gyfieithu yn rhy llythrennol, yn enwedig pan fydd rhywun o dan bwysau amser wrth ei waith bob dydd?
  • Ym mha gyd-destunau y mae rhaff i fod yn greadigol, a faint o raff sydd? Sut mae penderfynu ar hynny?
  • Sut byddwn ni’n cyfathrebu â chwsmeriaid am hyn?
  • Mathau penodol o destunau sy’n gofyn am ymateb mwy creadigol na’r arfer
  • Amryw heriau wrth fod yn greadigol, gan gynnwys: safbwyntiau diwylliannol; penawdau ac is-benawdau; systemau mnemonig; mwyseiriau; deunydd i blant; enwau; dylunio a graffeg ... a mwy!

Mae Rhys Iorwerth yn gyfieithydd ar ei liwt ei hun ac mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad yn y maes. Mae hefyd yn fardd ac yn awdur sydd wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau, gyda sawl cyfieithiad ac addasiad yn eu plith.


Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2024 - Canolfan Intec, Bangor
Dydd Iau,   7 Tachwedd 2024 - Canolfan yr Urdd, Caerdydd

Pris:

£90.00 i Aelodau, (yn ogystal â’r Cwmnïau Cydnabyddedig, Sefydliadau Cydnabyddedig a’r Darpar Aelodau)

£125.00 i bawb arall

Bydd y gweithdy’n un diwrnod (9:30am-4:30pm), a'r pris i gynnwys cinio ysgafn a lluniaeth yn ystod y dydd.