Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Berwyn Prys Jones

Gelli Glyd
8 Tyn y Cae Grove
Rhiwbeina
Caerdydd
CF14 6DB

Aelodaeth
  • Aelod Cyflawn - cyfieithu i'r Gymraeg
  • Aelod Cyflawn - cyfieithu i'r Saesneg

* Heb fod ar gael i wneud gwaith masnachol

Proffil

Cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru am 29 mlynedd o 1984 ymlaen

O fis Mawrth 2003 ymlaen, Cadeirydd cwmni cyfyngedig y Gymdeithas, sef Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru Cyf.

Arholwr a marciwr (rwy'n dal i farcio sgriptiau arholiad i'r Gymdeithas o dro i dro)

Tiwtor sawl rownd o e-weithdai cyfieithu y Gymdeithas i’r rhai sy’n ystyried sefyll arholiadau’r Gymdeithas (Cymraeg i Saesneg a Saesneg i Gymraeg)

Swyddi:

Aelod o Uned Gyfieithu'r Swyddfa Gymreig 1973-86

Pennaeth yr Uned Gyfieithu 1986-88

Cyfieithydd ar fy liwt fy hun: 1988-2003

O 2003 ymlaen: Cyfarwyddwr cwmni cyfyngedig a sefydlwyd yn ffurfiol (ar 13 Chwefror): Cyfieithiadau Berwyn Cyf, Cwmni rhif 4665909

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru:

Cadeirydd a Swyddog Termau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru 1984-?

Cadeirydd Pwyllgor Llywio a Phwyllgor Asesu y Gymdeithas

Cynrychiolydd cyfieithwyr ar eu liwt eu hunain ar Bwyllgor Cyfieithu Bwrdd yr Iaith Gymraeg (o 1998 ymaen tan i oes y Bwrdd ddod i ben)

Eraill:

Cadeirydd Cylch Llyfryddol Caerdydd 1999/2000 a 2004/05 (Trysorydd y cylch oddi ar 2015)

Aelod (Gwisg Las) o Orsedd y Beirdd

Yr wyf hefyd wedi bod:

(i) yn ymgynghorydd tendrau cyfieithu ac yn ymgynghorydd cyfieithu i Fwrdd yr Iaith Gymraeg;

(ii) yn arholwr allanol (am dair blynedd) ar Gwrs Cyfieithu Prifysgol Cymru, a redir ar y cyd gan adrannau’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Bangor;

(iii) yn diwtor gwadd ar y Cwrs Uwchraddedig mewn Astudiaethau Cyfieithu a redir gan y Ganolfan Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth;

(iv) yn ymgynghorydd penodi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (holl staff cychwynnol Cofnod y Cynulliad a dyrchafiadau mewnol Gwasanaeth Cyfieithu’r Cynulliad);

(v) yn olygydd ymgynghorol Geiriadur Terminoleg Trefniadaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(vi) yn ddarlithydd ar gyfieithu i fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd am ryw dair blynedd (2010-2013);

(vii) yn diwtor ar Weithdai Undydd ar Gyfieithu i Ganolfan ar gyfer Addysg Barhaus ym Mhrifysgol Caerdydd;

(viii) ymgynghorydd penodi i amryw o sefydliadau, megis Ombwdsmon Iechyd a Llywodraeth Leol yng Nghymru, Cartrefi Cymru, y Gofrestrfa Tir, ac ati.

Cyhoeddiadau:

Cyfieithiadau:

Tynged Anochel, cyfieithiad o Les Jeux Sont Faits gan Jean-Paul Sartre, Rhif 3 yng Nghyfres Cyfieithiadau'r Academi Gymreig, cyhoeddwyd 1975

Y Neges, cyfieithiad o stori fer gan Mohammed Dib, yn y gyfrol Storïau Ffrangeg Allfro (gol. Mair Hunt), Gwasg Gomer, 1978

Crwydro'r Cledrau, cyfrol ar reilffyrdd bach Cymru, cyd-olygwyd gyda Martin J Ball, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1984

Amryw o lyfrau darllen ffeithiol, gan mwyaf, i blant ysgolion cynradd ar gyfer Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, ynghyd ag ambell werslyfr swmpus i gyhoeddwr addysgol arall.

Y mwyafrif o’r llyfrau dwyieithog sydd wedi’u cyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys gwefan wreiddiol y Comisiwn Brenhinol.

Geiriadura:

Atodiad ‘answyddogol’ i Eiriadur yr Academi: mae i’w weld ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (o dan Rhestrau geiriau personol) oddi ar 2002 ac fe’i diweddarir o dro i dro.

Gwaith gwreiddiol:

Pennod ar 'Official Welsh' yn y gyfrol The Use of Welsh (gol. Martin J Ball), Multilingual Matters Cyf, 1988.

Llyfryn dwyieithog: Pam Dysgu mewn Ysgol Ddwyieithog?, cyhoeddwyd gan TASC (Uned Dysgu fel Gyrfa), Y Swyddfa Gymreig/Yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth, 1988.

Sawl erthygl ar drenau a bysiau i gylchgronau fel cylchgrawn Bustler y Cardiff Transport Preservation Group, Review y Crosville Enthusiasts’ Club a’r Historic Commercial News (Cylchgrawn yr Historic Commercial Venhicle Society).

Y Cyfryngau:

Teledu:

Cyfres deledu: Crwydro'r Cledrau, cyfres o naw rhaglen 15-munud ar rai o reilffyrdd bach Cymru. Cynhyrchiad gan Ffilmiau Celtic, darlledwyd ar S4C Ebrill-Mai 1986.

Radio:

Amryw o gyfweliadau a chyfraniadau i eitemau ynghylch cyfieithu a chludiant i BBC Radio Cymru.

Cyflwyniadau:

Detholiad o sleidiau ar reilffyrdd a bysys o waith y diweddar Alan Jarvis i amrywiol gymdeithasau, e.e Cymdeithas Reilffyrdd Sir Fynwy, Cymdeithas Reilffyrdd y Barri a Phenarth a'r Cardiff Transport Preservation Group (CTPG).

Cyfres o sioeau o’m ffilmiau fideo o drenau stêm a ralïau bysiau i’r CTPG.

Cymwysterau

BA Cymraeg (2.1)
MA Astudiaethau Celtaidd